18 Hydref 2021

E-bost: (seneddhealth@senedd.wales

 

 

 

 

 

 

 


Annwyl Russell

Re: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal

Diolch yn fawr iawn am eich llythyr yn gofyn am ein hymateb i’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal.

Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yw'r rheolydd annibynnol ar gyfer holl feddygon y DU. Rydym yn helpu i amddiffyn cleifion a gwella ymarfer ac addysg meddygol ledled y DU gan osod safonau i fyfyrwyr a meddygon. Rydym yn eu cefnogi i gyrraedd a rhagori ar y  safonau yma, yn ogystal â chymryd camau i wneud hyn pan na gyrhaeddir y safonau gofynnol. 

Mae ein cylch gwaith cymharol gul, o ystyried ehangder y Bil Iechyd a Gofal, yn golygu na allwn wneud sylwadau ar y cwestiynau penodol a ofynnir.

Serch hynny, gobeithiwn y bydd yn ddefnyddiol i rannu'n hymateb i’r  Pwyllgor Biliau ar y Bil ei hun. Mae hyn yn esbonio ein safbwynt ar y cynigion sy’n berthnasol i’n gwaith. Gweler isod ddyfyniadau o'n Tystiolaeth Ysgrifenedig i'r Bil Iechyd a Gofal, yn benodol ar Gymal 123, a allai effeithio ar Reoleiddwyr Iechyd.

Mae'r pwyntiau allweddol mwyaf perthnasol wedi'i nodi mewn ffont bras. Gweler yr atodiad er mwyn darllen yr holl dystiolaeth ysgrifenedig. 

Newidiadau i reoleiddio proffesiynol (rhan 5, cymal 123)

1       O ddiddordeb uniongyrchol i ni yw’r cynigion i ymestyn pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch rheoleiddio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae'r pwerau yma'n cynnwys:

 

n  Tynnu proffesiwn o bwerau rheoliad lle nad oes angen rheoleiddio mwyach er mwyn amddiffyn y cyhoedd

n  Diddymu corff rheoleiddio proffesiynol iechyd a gofal unigol lle mae'r proffesiynau dan sylw wedi'u dadreoleiddio neu'n cael eu rheoleiddio gan gorff gwahanol

n  Dirprwyo, trwy ddeddfwriaeth, swyddogaethau cyfyngedig yn hanesyddol i gyrff rheoleiddio eraill

Pwerau i dynnu proffesiwn o reoleiddio a diddymu rheolydd

2       Mae'r Llywodraeth yn nodi taw'r nod yw mynd i'r afael ag anghydbwysedd. Ar hyn o bryd, mae adran 60 o Ddeddf Iechyd 1999 yn darparu pwerau i wneud nifer fawr o newidiadau i'r dirwedd reoleiddio broffesiynol trwy ddeddfwriaeth eilaidd. Bydd y cynigion yn y Bil ar gyfer pwerau ychwanegol yn ehangu sgôp adran 60 ac yn ymestyn pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol.

 

3       Ar hyn o bryd mae gan y Llywodraeth bwerau i ddod â phroffesiwn newydd i reoleiddio, neu ei addasu trwy is-ddeddfwriaeth, ond dim ond trwy ddeddfwriaeth sylfaenol y gall dynnu proffesiwn o reoliad. Bydd y Bil yn newid hyn trwy alluogi tynnu proffesiwn o reoliad statudol, trwy is-ddeddfwriaeth. Rydym yn croesawu’r eglurhad yn y Bil y byddai proffesiwn yn cael ei dynnu o reoliad dim ond pan nad oes ei angen mwyach. Fodd bynnag, hoffwn fwy o fanylion a chadarnhad ynghylch pa feini prawf y bydd y llywodraeth yn eu defnyddio i lywio penderfyniad o'r fath.

 

4       Mae'r Bil hefyd yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol ddileu rheoleiddiwr gofal iechyd proffesiynol gan ddefnyddio is-deddfwriaeth, ond dim ond lle mae ei swyddogaethau rheoleiddio wedi cael eu huno neu eu cynnwys gan gorff neu gyrff arall, neu lle mae'r proffesiynau y mae'n eu rheoleiddio yn cael eu tynnu o reoliad.

 

5       Bydd defnyddio'r pwerau hyn yn dod â goblygiadau i'r llywodraethau datganoledig oherwydd bod y rhan fwyaf o [1]bwerau rheoleiddio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn cael eu rheoli gan San Steffan. Mae Gogledd Iwerddon yn wahanol gan fod rheoleiddio proffesiynol yn fater a drosglwyddir. Cymhlethir hyn ymhellach gan y ffaith bod polisi iechyd a gofal wedi'i ddatganoli ym mhob un o'r pedair gwlad.

 

6       Fel rheolydd pedair gwlad rydym yn croesawu sicrwydd y Llywodraeth o fewn nodiadau esboniadol y Bil y bydd ‘unrhyw ddefnydd o’r pwerau estynedig yn destun cymeradwyaeth y Gweinidog ar draws y gweinyddiaethau datganoledig. Bydd gorchmynion bob amser yn gofyn am gymeradwyaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon lle mae rheoleiddio proffesiynol yn fater a drosglwyddir ac efallai y bydd angen cymeradwyaeth Senedd yr Alban (lle maent yn ymwneud â phroffesiynau a ddygwyd i reoliad ar ôl Deddf yr Alban 1998**) neu Senedd Cymru (lle mae'r gorchymyn yn ymwneud â gweithwyr gofal cymdeithasol).'

 

7       Credwn fod annibyniaeth yn allweddol i'r ymddiriedaeth a'r hyder sydd gan y cyhoedd a phroffesiynau wrth reoleiddio. Mewn system o ofal iechyd sy'n cael ei dominyddu gan systemau iechyd gwladol y DU - pedwar darparwr ar wahân a ariennir gan y wladwriaeth - mae'n hanfodol bod rheoleiddwyr yn gallu gweithredu'n annibynnol o'r llywodraeth a rhanddeiliaid eraill.

 

8       Er nad ydym yn credu y byddai'r pwerau newydd hyn byth yn berthnasol i reoleiddio meddygon oherwydd y risgiau sylweddol o ran amddiffyn y cyhoedd byddai dileu rheoleiddio yn golygu, croesawn sicrwydd gan y Llywodraeth ynghylch sut y bydd y pwerau estynedig hyn yn cael eu gweithredu.

 

9       Byddai’n ddefnyddiol deall a fydd meini prawf ac egwyddorion craidd i lywio penderfyniadau i ddod â phroffesiynau i reoleiddio, neu i’w dileu, yn cael eu datblygu, a pha ymgynghoriadau â sefydliadau cleifion, cyrff cynrychiadol a rheoleiddwyr fydd yn digwydd.

 

10    Rydym wedi sylwi nad oes unrhyw sôn am ddyletswydd statudol i ymgynghori â rhan-ddeiliaid - naill ai yn y Bil, nac yn y nodiadau esboniadol - cyn diddymu proffesiwn a rheoleiddiwr proffesiynol. Byddem yn falch pe rhoddir ystyriaeth i sut y byddai penderfyniadau o'r fath yn destun craffu priodol ac a ydynt er budd y cyhoedd ac a fyddent yn amddiffyn cleifion.

Pŵer i gael gwared ar gyfyngiadau ynghylch y pŵer i ddirprwyo swyddogaethau trwy ddeddfwriaeth

11    Croesawn y pŵer hwn gan ei fod yn unol ag uchelgeisiau ein strategaeth gorfforaethol i weithio gyda phartneriaid i gyflawni nodau system gofal iechyd ehangach. Ochr yn ochr â thrafodaethau cyfochrog ar ddiwygio rheoliadol, bydd yn:

n  Rhoi cyfle i reoleiddwyr ac eraill ar draws y systemau gofal iechyd weithio gyda'i gilydd yn fwy effeithiol.

n  Galluogi sefydliadau i gyfuno arbenigedd i symleiddio sut mae swyddogaethau'n cael eu cyflawni, gan gydnabod y gallai fod angen persbectif amlddisgyblaethol a dull cydweithredol ar rai, er mwyn cryfhau diogelwch y cyhoedd.

 

Gobeithiwn y bydd y wybodaeth uchod yn helpu i lywio craffu’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Iechyd a Gofal.

 

Yr eiddoch yn gywir,

 

Sara Moseley

Pennaeth GMC Cymru

 

 



[1] Mae rheoleiddio gweithwyr cymdeithasol wedi'i ddatganoli.

**Cyn bo hir, byddwn yn ymgymryd â rheoleiddio Cymdeithion Meddygol a Chymdeithion  Anesthesia a fydd yn atebol i Senedd yr Alban.